1 Caeau sill o dyrnau serch
2 Er gwawd y tafawd hoewferch
3 Ac aur gwn dy ddiheuraw
4 i'th lys a gefais o'th law
7 fyng-elynnion holion hy
8 fedel aml fu dal i mi
13 yn iarlles eiry vn orlliw
14 ith alwnn gwedd memrwn gwiw
15 yn herlod salw i'm galwud
16 I'm gwydd drwy waradwydd drud
9 Gwead aur liw gawad ôd
10 A sric a rois erod
+1 Ni roit ti erofi faint
+2 Y mymryn gwen-ddyn gwyn ddaint
11 Gwewyr serch gwaeth no gwir [ ]
12 a gefais drwy ddigofaint
17 Gwiw ddyn wyd gwaeddan ydwyf
18 gwaeth-waeth newidwriaeth nwy[ ]
19 Gyrraist fi y fun gerynt
20 gwaeddan am ei gapan gynt
21 O hud a rhyw symud rhus
22 A lledrith yn dwyllodrus
23 O ddyad twyll ydd wyt ti
24 Anfoes aml yn fy siommi
25 Dyn ganaid donioc anwyd
26 ddifai dwyll o ddyfed wyd
27 Nid vn yscol hudoliaeth
28 Na gwarant twyll cymwyll c[ ]
29 Na hud menw na hoed mynych
30 Na brad ar wyr na brwyd[ ] wych
31 Eithr afael wyth arofun
32 diau hud o'th air dy hun
35 [10r] Tri milwr gynt trem olud
36 A wyddyn cynn no hyn hud
37 Cad brofiad ceidw brifenw
38 Cyntaf addfwynaf oedd fenw
39 Ar ail fydd dydd da ddyall
40 Eiddilic corr wyddel call
41 Trydydd oedd ger muroedd môn
42 maeth rhwy arfaeth rhi arfon
43 Cerddeis ar holl ben-cerddiaeth
44 Cyfnod gwyl cyfnewid gaeth
33 Anaml y cedwi vnoed
34 llid rhyfel llwyd fab cel coed
45 dyleud wenn gymhendwyll
46 Delyn ariant tant y twyll
47 henw it fydd tra fo dydd dyn
48 hudoles yr hoew delyn
49 Enwoc ith wnair gair gyrddbwyll
50 Armes telyniores twyll
51 Y delyn ar adeilwyd
52 O radd nwyf aur o ddyn wyd
57 I llorf a'm pair yn llwyr farw
58 O hud gwir ac o hoed garw
55 Ai chwrr ysydd nid gwydd gwyllt
56 O ffurf gelfyddyd fferyllt
53 Mae arnai nadd o radd rus
54 Acyscarth celc ac escus
59 Twyll ebillion sy i honno
60 a thruth a gweiniaith a thro
63 Wi o'r wengerdd wawr wingoeth
64 A fedri di o fydr doeth
65 Trech yw meddir crefft hîr hud
66 liw gwylan befr no golud
61 Deulain o aur a dalant
62 Y dwylaw tau yn daly tant
67 Cymer brad nifer bryd Nyf
68 ganwyll gwlad Gamber gennyf
69 Law-rudd ffawd lariaidd ei pharch
70 Le'r wyl gennyf liw'r alarch
dd' ap Gwilym